Mae’r hydref yn dod â digonedd o ddathliadau a ffyrdd o fwwwynhau tirweddau godidog Cymru – ond a oeddech chi’n gwybod y gallai gwneud rhai o’r *pethau hyn* eich troi chi’n bwmpen?

Na, ddim mewn gwirionedd – ond bydd eu hosgoi yn eich arbed chi rhag gadael sbwriel ac i beidio a bod yn dipiwr anghyfreithlon yn anfwriadol...

Calan Gaeaf
 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r cyfryngau cymdeithasol poblogaidd wedi codi tuedd i’r amlwg dro ar ôl tro, bob Calan Gaeaf – yn annog pobl i adael eu hen bwmpenni mewn ardaloedd byd natur fel parciau, coetiroedd a chefn gwlad. Y bwriad cwbl ystyrlon y tu ôl i’r negeseuon annoeth hyn yw darparu bwyd i’r adar a chreaduriaid bywyd gwyllt eraill.

Fodd bynnag, y gwirionedd yw y gall pwmpen arwain at nifer o broblemau difrifol i anifeiliaid, yn enwedig draenogod, sy’n gallu dadhydradu’n ddifrifol gan y ffrwyth.

Gall gwaredu eich pwmpen mewn parc, coetir neu unrhyw le arall heblaw eich bin dynodedig hefyd gael ei ystyried yn sbwriel ac os cewch eich dal gallech gael dirwy. Gallwch gael gwared ar eich pwmpen yn eich pentwr compost neu ei ailgylchu yn eich casgliad gwastraff bwyd.

 

Noson Tân Gwyllt


Mae Noson Tân Gwyllt yn gyfle gwych i ffrindiau a theulu ddod at ei gilydd a dathlu — ond bob blwyddyn mae pobl yn defnyddio’r digwyddiad fel esgus i ollwng eitemau gwastraff.

Mae gosod unrhyw fath o ddeunydd gwastraff ar goelcerth answyddogol yn erbyn y gyfraith ac yn cael ei ystyried yn dipio anghyfreithlon, ac os cewch eich dal yn gyfrifol, gallech fod yn agored i ddirwy o £400 neu erlyniad llys.

Os ydych am gael gwared ar wastraff diangen, dylech fynd ag ef i’ch canolfan ailgylchu gwastraff y cartref agosaf. Am ragor o fanylion chwiliwch ar Cymru yn Ailgylchu neu edrychwch ar dudalennau gwefan eich Cyngor.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi fwynhau Noson Tân Gwyllt yn gyfrifol, ewch i wefan  Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

 

Gwaith garddio’r hydref


Does neb yn hoff iawn o’r gwaith o dacluso ein gerddi yn yr hydref, cyn i oerfel y gaeaf gyrraedd. Gall cribinio dail deimlo fel tasg ddiddiwedd, gan adael pentyrrau o ddail i chi gael gwared arnynt.

Mae llawer o bobl yn credu bod dympio gwastraff gardd dros ffensys ac mewn caeau yn ddiniwed, ond a wyddech chi y gall cael gwared ar eich gwastraff gardd yn y ffordd anghywir fod yn niweidiol i’n bywyd gwyllt a’n hecosystemau?

Bu hyd yn oed enghreifftiau o geffylau a gwartheg yng Nghymru yn marw ar ôl bwyta toriadau gwair sy’n cynnwys tocsinau, felly, gwnewch yn siŵr bob amser eich bod chi’n cael gwared ar eich gwastraff gardd yn ddiogel er mwyn osgoi achosi niwed angheuol.

Gall gwastraff gardd gynnwys hadau a rhannau o blanhigion a all aildyfu’n blanhigion newydd. Os yw gwastraff gardd wedi’i adael yn anghyfreithlon, gall y planhigion hyn dyfu a lledaenu i ardaloedd lle gallant niweidio’r amgylchedd ac achosi niwed i anifeiliaid.

I gael gwybod sut i gael gwared ar eich gwastraff gardd yn gywir, edrychwch ar wefan eich cyngor lleol – bydd y rhan fwyaf o wastraff gardd yn cael ei gymryd gan eich cyngor lleol pan gaiff ei roi yn y bin neu’r cwdyn cywir, neu fel arfer gallwch fynd â gwastraff i’ch canolfan ailgylchu leol. I ddarganfod mwy, darllenwch ein herthygl ‘Gwarchodwch amgylchedd Cymru trwy waredu eich gwastraff gardd yn y ffordd gywir yr haf hwn'

 

Cerdded yn yr hydref


Gyda’r haul yn dal i ddisgleirio, efallai y bydd mwy o bobl nag arfer yn dewis mynd allan i archwilio’r awyr agored yr hydref hwn, gan wneud y mwyaf o’r dail yn newid eu lliw a thymheredd oerach.

Wrth grwydro ar hyd ein tirweddau Cymreig, mae’n bwysig sicrhau ein bod yn eu gwarchod.

Mae gadael bagiau o wastraff wrth ymyl neu ar ben bin sy’n llawn yn cael ei ystyried yn dipio anghyfreithlon. Er mwyn osgoi cael eich dal allan, dewch â’ch bagiau eich hun gyda chi, fel y gallwch fynd ag unrhyw eitemau gwastraff adref a chael gwared arnynt pan fyddwch yn cyrraedd adref.

I gael llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar sut i warchod y byd natur rydych chi’n ei harchwilio, edrychwch ar wefan  y Cod Cefn Gwlad.
 

Clirio’ch cwpwrdd dillad


Er gwaethaf y tywydd cynnes sy’n para’n hirach nag arfer eleni, efallai y byddwch chi’n dal i feddwl am roi eich dillad haf i gadw, a rhoi siwmperi a chotiau cynhesach yn eu lle.

Gallai’r newid hwn hyd yn oed eich ysbrydoli i waredu dillad, gan roi eitemau diangen i siopau elusen.

Er bod hon yn ffordd wych o wneud ychydig o le yn eich cwpwrdd dillad a rhoi rhywbeth yn ôl i achos teilwng neu’r gymuned, mae’n bwysig gwneud yn siŵr nad ydych chi’n dod yn dipiwr anghyfreithlon yn anfwriadol yn y broses.

Rhowch eich dillad i siop elusen dim ond pan fydd ar agor ac yn derbyn rhoddion, gan fod gadael eich dillad ac eitemau diangen eraill y tu allan i’r siop elusen yn cael ei ystyried yn dipio anghyfreithlon, a gall eitemau gael eu difrodi gan y tywydd neu eu hysbeilio gan eraill.

 

Cofiwch … os ydych chi’n talu rhywun i fynd â’ch gwastraff i ffwrdd yr hydref hwn, gwnewch yn siŵr bod ganddyn nhw drwydded cludo gwastraff i wneud hynny, sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Gwiriwch drwydded yma cyfoethnaturiol.cymru/gwiriwchDrwyddedGwastraff