Oeddech chi’n gwybod y gall cael gwared ar eich gwastraff gardd yn y ffordd anghywir fod yn niweidiol i’n bywyd gwyllt a’n hecosystemau? O ddilynwyr oes Allan Titchmarsh i arddwyr newydd fydd yn cael eu pâr cyntaf o fenig yr haf hwn, mae gan bob un ohonom ddyletswydd i ofalu ble y bydd ein gwastraff gardd yn mynd maes o law.

Boed yn doriadau gwair, planhigion marw, neu dociadau gwrych – dylech bob amser gael gwared ar eich gwastraff gardd yn y ffordd gywir.

Mae gwastraff gardd fel arfer yn cynnwys planhigion cronedig o wahanol dasgau garddio e.e. torri neu dynnu glaswellt, codi chwyn, a thocio gwrychoedd - yn ogystal â gweddnewid gerddi cyffredinol. Mae maint y gwastraff gardd yn amrywio o dymor i dymor, ac wrth gwrs, o gartref i gartref.

Er y gall rhywfaint o wastraff gardd gael ei ddefnyddio i gynhyrchu compost neu domwellt – y gellir ei ddefnyddio fel cyflyrydd pridd – nid yw pob deunydd gwastraff gardd mor gyfeillgar!

Mae rhai planhigion anfrodorol sydd i’w cael mewn gerddi yn cael eu hystyried yn ymledol; mae hyn yn golygu y gallan nhw ledaenu ac achosi difrod amgylcheddol: a gall hyn yn ei dro arwain at broblemau iechyd a lles i aelodau’r cyhoedd. Mae plannu neu beri bod planhigion anfrodorol yn tyfu yn y gwyllt yn erbyn y gyfraith - mae hyn yn cynnwys dympio deunydd planhigion hyfyw y tu allan i’ch gardd (e.e. toriadau, gwreiddiau, hadau, planhigion cyfain, pridd sy’n cynnwys y deunyddiau hyn).

Mae planhigion dŵr croyw ymledol o bwll eich gardd yn arbennig o anodd - ac yn ddrud - i'w rheoli pan fyddan nhw’n dianc i'r amgylchedd ehangach, ac felly dylid cymryd gofal arbennig i waredu planhigion a gymerwyd o byllau gardd neu ddŵr a allai gynnwys darnau o blanhigion pwll.

Fel garddwr brwd, gallwch chwarae rhan bwysig yn y dasg o warchod amgylchedd Cymru drwy sicrhau eich bod yn cael gwared ar eich gwastraff yn y ffordd gywir.

Gall taflu gwastraff gardd mewn cae, coedwig, tir comin neu dros y ffens gefn ymddangos yn ddiniwed, ond gall y peryglon fod yn sylweddol – nid yn unig i’r amgylchedd, ond hefyd i’r garddwr y canfyddir ei fod wedi tipio’n anghyfreithlon. Os cadarnheir eich bod wedi dympio eich gwastraff gardd, gallech wynebu dirwy o hyd at £400 am dipio anghyfreithlon ar raddfa fach.

Amharu ar gynefinoedd ac anifeiliaid

Gall gwastraff gardd gynnwys hadau a rhannau o blanhigion all aildyfu’n blanhigion newydd. Os yw gwastraff gardd wedi'i ollwng yn anghyfreithlon, gall y planhigion hyn dyfu a lledaenu i ardaloedd lle gallan nhw niweidio'r amgylchedd ac achosi niwed i anifeiliaid.

Gall y planhigion hyn sydd wedi’u dympio, yn enwedig rhywogaethau ymledol ac anfrodorol, fod yn niweidiol i fywyd gwyllt neu i dda byw lleol, a gallen nhw darfu ar adar sy’n nythu neu gyfyngu ar dyfiant planhigion brodorol. Gall ceffylau farw hyd yn oed o fwyta toriadau gwair sy’n cynnwys tocsinau, felly gwnewch yn siŵr bob amser eich bod yn cael gwared ar eich gwastraff gardd yn ddiogel er mwyn osgoi achosi niwed angheuol.

Perygl tanau gwyllt a thanau coedwig

Gall dympio gwastraff gardd – yn lle ei waredu drwy eich cyngor lleol neu ganolfan ailgylchu – gyfrannu at danau gwyllt. Gall gwres a gynhyrchir gan bentyrrau o wastraff gwyrdd sy’n troi’n gompost ddechrau tanio yn ystod tywydd poeth iawn, a gan fod hafau'n mynd yn boethach bob blwyddyn, mae tanau gwyllt dinistriol yn dod yn fwy o berygl nag erioed o'r blaen.

Tagu systemau draenio ac afonydd

Beth yw un o'r tramgwyddwyr gwaethaf am greu difrod amgylcheddol o wastraff gardd? Toriadau lawnt. Unwaith y bydd toriadau lawnt yn cyrraedd dyfrffyrdd – boed hyn yn effeithio ar nentydd bychain, pyllau, neu hyd yn oed afonydd – mae'n lleihau lefelau’r ocsigen yn y dŵr, gan beryglu'r pysgod a’r bywyd dyfrol. Gall toriadau o lawnt a gwastraff gardd arall hefyd achosi tagfeydd mewn dyfrffyrdd, gan arwain at berygl llifogydd.

Bydd cau draeniau â gwastraff gardd nid yn unig yn arwain at sgwrs anodd gyda phwy bynnag sy’n rheoli’r ddyfrffordd, ond gall hefyd achosi difrod mawr i systemau carthffosiaeth a draenio lleol.

Felly, sut allwch chi osgoi dympio eich gwastraff gardd mewn ardaloedd anawdurdodedig?

  • Gwnewch eich ymchwil – bydd gan bob cyngor lleol yng Nghymru’r wybodaeth ddiweddaraf ar eu gwefannau am sut i waredu gwastraff gardd: mae gan gynghorau lleol reolau gwahanol, ynghyd â chynlluniau amrywiol ar waith i osgoi dympio anawdurdodedig o unrhyw fath, gan gynnwys gwastraff gardd.
  • Bydd y rhan fwyaf o wastraff gardd yn cael ei gasglu gan eich cyngor lleol pan gaiff ei roi yn y bin neu’r bag lliw cywir, neu’n aml gallwch fynd â gwastraff gardd i safleoedd gwastraff dynodedig neu i ganolfannau ailgylchu, yn dibynnu ar reolau eich cyngor lleol.
  • Ewch i’r wefan ddefnyddiol hon neu darllenwch y daflen Byddwch yn Gall gyda Phlanhigion: taflen sy’n dysgu mwy am sut y gallwch ddiogelu bywyd gwyllt, dyfrffyrdd a’r amgylchedd rhag planhigion ymledol

Yn olaf, gwnewch yn siŵr os oes unrhyw un arall yn cael gwared ar eich gwastraff gardd ei fod e/ei bod hi yn gludwr gwastraff cofrestredig: os canfyddir bod eich gwastraff wedi’i dipio’n anghyfreithlon, hyd yn oed os gwnaethoch chi dalu rhywun arall am ei gludo, mae perygl y cewch ddirwy os na wnaethoch chi wirio. Eich Dyletswydd Chi yw Gofalu i ble y caiff eich gwastraff gardd ei gario yn y pen draw – Gallwch wirio a yw rhywun wedi cofrestru fel cludwr gwastraff gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yma.

Gwarchodwch amgylchedd Cymru ac osgowch ddirwyon trwy wneud yn siŵr eich bod yn cael gwared ar eich gwastraff gardd yn y ffordd gywir yr haf hwn.

Oedd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol? Os hoffech gofrestru ar gyfer eich e-gylchlythyr misol, gan gynnwys diweddariadau ar fentrau, ymgyrchoedd a chyngor gan Taclo Tipio Cymru, sgroliwch i lawr i waelod ein tudalen hafan yma.

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol – Twitter, Facebook.