Os ydych chi’n gludwr gwastraff masnach mae’n rhaid i chi gofrestru gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Gallwch gofrestru ar-lein neu gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru am ragor o wybodaeth ar 0300 065 3000.
Os ydych chi’n cludo gwastraff heb gofrestru gall arwain at eich erlyn a dirwyon diderfyn.
Mae yna system ddwy haen yn seiliedig ar lefel y risg. Bydd gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn eich helpu i benderfynu pa lefel cofrestru sy’n briodol i chi.
Mae cofrestriad Haen Is yn rhad ac am ddim ac yn para’n amhenodol, ac yn berthnasol i chi os ydych chi:
Mae cofrestriad Haen Uwch yn £154 ac yn para am 3 blynedd. Mae’r haen hwn yn berthnasol i chi os nad ydych chi’n perthyn i unrhyw un o’r categorïau a restrir yn yr adran Haen Is uchod.
Cofiwch wirio taflen ffeithiau y Cludwyr Gwastraff, y Brocer a'r Deliwr cyn cofrestru, efallai nad yw’r cyngor a diffiniadau’r cludwyr yn berthnasol i chi ac ni ddylid eu derbyn fel canllawiau swyddogol.
Dan Ddeddf Delwyr Metel 2013 (metel sgrap), os ydych chi’n casglu metel sgrap mae’n rhaid i chi gael trwydded casglwr hefyd gyda’ch Awdurdod Lleol. Mae hyn yn eich galluogi i weithredu fel casglwr yn ardal yr Awdurdod Lleol sy’n darparu’r drwydded.
Mae’n rhaid cael trwydded ar wahân gan bob Awdurdod Lleol yr ydych am weithredu ynddo ac mae’n rhaid i chi gael copi o’r drwydded wedi’i harddangos ar eich cerbyd. Am ragor o wybodaeth am y cais a’r ffi, cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol.
Cliciwch yma i wneud cais am drwydded ar gyfer cludwyr metel sgrap.
Rhaid ichi lenwi dogfen gwastraff, fel nodyn trosglwyddo, naill ai ar ffurf copi caled neu drwy’r system Dyletswydd Gofal Electronig (EDoC), ar gyfer pob llwyth o wastraff rydych chi’n ei gasglu. Yr unig eithriad yw os caiff ei gasglu gan ddeiliad tŷ; fodd bynnag, rhaid ichi lenwi dogfen o’r fath ar y dyddiad y bydd y gwastraff yn cael ei drosglwyddo.
Mae’r daflen a’r daflen ffeithiau ganlynol yn cynnwys canllawiau ynglŷn â sut i ddod yn gludydd gwastraff cofrestredig a sut i weithredu fel cludydd gwastraff mewn modd cyfreithlon, diogel a chyfrifol.
Oherwydd y goblygiadau amgylcheddol difrifol sy’n gysylltiedig â chlirio a gwaredu gwastraff peryglus, mae gan gludwyr gwastraff peryglus reolau a rheoliadau ychwanegol y mae’n rhaid cydymffurfio â nhw, yn ogystal â rheoliadau safonol ar gyfer cludwyr gwastraff.
Pan gaiff gwastraff peryglus ei symud i neu o unrhyw leoliad yng Nghymru, mae angen cael nodyn cludo gwastraff peryglus i fynd ag ef, a rhaid cadw’r nodyn hwn am 3 blynedd.
Hefyd, rhaid llenwi ffurflenni cludo gwastraff peryglus er mwyn hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch llwythi o wastraff peryglus sydd wedi cael eu derbyn, eu cludo ymaith neu eu gwaredu ar safle penodol. Dyma un o ofynion gorfodol Rheoliadau Gwastraff Peryglus 2005.
I gael mwy o wybodaeth a chanllawiau’n ymwneud â chludo a gwaredu gwastraff peryglus, edrychwch ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.