GWYBOD BETH YW EICH DYLETSWYDD GOFAL

Mae dilyn eich Dyletswydd Gofal mewn perthynas â’ch gwastraff yn eich amddiffyn rhag cael eich dirwyo neu eich erlyn, ac mae’n helpu i sicrhau y bydd yr unigolyn neu’r busnes a fydd yn cael gwared â’ch gwastraff yn gwneud hynny mewn modd diogel, cyfreithlon a chyfrifol.
 

DEILIAID TAI

Mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i wirio bod y sawl sy’n cymryd eich gwastraff yn gludwyr gwastraff cofrestredig.

Os rhowch eich gwastraff i rywun arall, rhaid ichi wirio bod y person neu’r busnes wedi cofrestru gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gofynnwch i’r person neu’r busnes ddangos tystiolaeth eu bod wedi cofrestru i gludo neu dderbyn gwastraff. Yn well fyth, ewch ati i gadarnhau’r manylion eich hun ar Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dylech hefyd wneud nodyn o’u henw (neu enw’r busnes), y math o gerbyd sydd ganddynt a’r rhif cofrestru. Hefyd, gwnewch gofnod o’r dyddiad yr aethant â’ch gwastraff ymaith a gofynnwch iddynt i ble y byddant yn mynd â’ch gwastraff.

Bydd rhif trwydded cludydd gwastraff cofrestredig yn cychwyn gyda CBDU ac yn gorffen gyda rhwng 1 i 6 rhif. Bydd gweithredwyr gwastraff cyfreithlon a chyfrifol yn fodlon rhoi’r wybodaeth hon ichi.

Os methwch â bodloni eich dyletswydd gofal mewn perthynas â gwastraff eich cartref, fe allech gael hysbysiad cosb benodedig o £300 neu ddirwy ddiderfyn pe baech yn cael eich erlyn.
 

PERCHNOGION BUSNESAU

Caiff unrhyw wastraff a gaiff ei greu trwy weithgaredd masnachol ei ddosbarthu fel gwastraff busnes, ac mae rheolau llymach yn perthyn iddo nag i wastraff gan ddeiliaid tai.

Er enghraifft, fe allai fod yn wastraff a gynhyrchir gan ffatri, swyddfa, siop, bwyty, siop trin gwallt neu rywun sy’n gweithredu ei fusnes bach neu ganolig ei hun o’i gartref.

Wrth waredu gwastraff busnes, mae gennych ddau opsiwn:

Opsiwn 1 - Gwaredu eich gwastraff eich hun drwy gofrestru fel cludydd gwastraff a’i gludo i safle awdurdodedig.
Opsiwn 2 - Trefnu i rywun gasglu a gwaredu’r gwastraff ar eich rhan trwy dalu am wasanaeth cludydd gwastraff cofrestredig.

Gyda’r ddau ddewis, rhaid ichi lenwi a chadw dogfennau gwastraff (a elwir yn nodiadau trosglwyddo). Gall swyddog awdurdodedig o Cyfoeth Naturiol Cymru neu’r Awdurdod Lleol ofyn ichi ddangos y cofnodion hyn ar unrhyw adeg ac mae’n drosedd peidio â gwneud hynny.

Mae Taclo Tipio Cymru yn argymell y dylai pawb sy’n cynhyrchu neu’n trin gwastraff fel rhan o weithgarwch masnachol ddarllen y ddogfen 'Cod Ymarfer Dyletswydd Gofal Gwastraff'er mwyn deall yr hyn sy’n ofynnol.
 

LANDLORDIAID

Fel landlord, caiff eich eiddo rhent ei ddosbarthu fel busnes a bydd unrhyw wastraff a fydd yn deillio o lanhau neu waith cynnal a chadw yn cael ei ddosbarthu fel gwastraff busnes. Rhaid i’r deunyddiau gwastraff gael eu rheoli a’u gwaredu mewn modd diogel, cyfreithlon a chyfrifol.

Rhaid ichi ddilyn y Ddyletswydd Gofal mewn perthynas â’r gwastraff hwn, fel y nodir uchod ar gyfer Perchnogion Busnesau.

Mae’n arfer da hysbysu eich tenant y dylen nhw waredu eu gwastraff yn gyfrifol yn unol â chanllawiau’r Awdurdod Lleol, mae canllawiau pellach ar gyfer tenantiaid ar gael dan ein hadran landlordiaid.

Rhaid i unrhyw wastraff sy’n deillio o glirio neu gynnal a chadw eich eiddo gael ei gludo i gyfleuster gwastraff sydd wedi’i awdurdodi i dderbyn y math hwnnw o wastraff. Gofynnwch i’ch Awdurdod Lleol a oes ganddo gyfleusterau y gallwch eu defnyddio.
 

CLUDWYR GWASTRAFF

Os byddwch yn cludo metel gwastraff neu fetel sgrap fel rhan o’ch busnes, efallai y bydd yn rhaid ichi gofrestru fel Cludydd Gwastraff gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Ceir system dwy haen ar gyfer cofrestru, yn seiliedig ar lefel y risg i’r amgylchedd.

Gall gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru eich helpu i benderfynu pa un a oes angen ichi gofrestru, ac os felly, pa lefel sy’n briodol ichi. Ewch i cyfoethnaturiol.cymru a chwiliwch am ‘cludydd gwastraff’ / ‘waste carrier’. Gallwch gofrestru ar-lein, neu ffoniwch Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000 i gael mwy o wybodaeth.

Os byddwch yn cludo gwastraff heb gofrestru fel Cludydd Gwastraff Cofrestredig, fe allech gael eich erlyn ac wynebu dirwy ddiderfyn.

Dim ond i safle trwyddedig y dylech fynd â gwastraff. Mae’r safleoedd hyn yn mynnu eich bod yn Gludydd Gwastraff cofrestredig a bod gennych ddogfennau gwastraff priodol.

Hefyd, bydd angen ichi wneud yn siŵr eich bod yn llenwi dogfen gwastraff, fel nodyn trosglwyddo, ar gyfer pob llwyth o wastraff rydych chi’n ei drosglwyddo i eraill. Dylid cadw dogfennau gwastraff am ddwy flynedd o leiaf. Ar gyfer gwastraff peryglus, dylid cadw’r dogfennau am o leiaf chwe blynedd.

Ymhellach, rhaid i bawb sy’n casglu metel sgrap fod â thrwydded casglwr gyda’i Awdurdod Lleol a chael copi i’w harddangos yn eu cerbyd. Bydd hyn yn caniatáu ichi weithredu fel casglwr yn ardal yr Awdurdod Lleol dan sylw. Rhaid cael trwydded ar wahân gan bob Awdurdod Lleol y dymunwch weithredu o fewn eu ffiniau.

Mae’n drosedd peidio â chofrestru pan fo hynny’n ofynnol. I gael mwy o wybodaeth am y cais a’r ffi, mae’n rhaid i chi gysylltu â’ch Awdurdod Lleol.

Y gosb fwyaf am dipio anghyfreithlon yw dirwy o £50,000 a hyd at 12 mis o garchar.

Ar gyfer y troseddau tipio anghyfreithlon mwyaf difrifol, does dim cyfyngiad ar y ddirwy erbyn hyn, ac fe allech wynebu hyd at bum mlynedd o garchar.

Ymunwch â'n e-gylchlythyr

Tanysgrifiwch