Eich Dyletswydd Chi Yw Gofalu

Eich dyletswydd chi yw gofalu ble mae eich gwastraff yn mynd.

Os rydych chi'n talu rhywun i gymryd eich gwastraff  cartref neu eitemau diangen, bydd rhaid i chi wneud y canlyno i fodloni eich dyletswydd gofal gwastraff cartref:

1) Sicrhau for y person neu gwmni sy'n cymryd eich gwastraff yn gludwr gwastraff cofrestredig. Gallwch wirio ar-lein trwy fynd i cyfoethnaturiol.cymru/gwirioGwastraff

2) Gofyn bob tro i ble mae eich gwastraff yn mynd

Os na fyddwch chi'n wneud y gwiriadau hyn gallech chi dderbyn dirwy o £300. Gallech chi hefyd cael eich erlyn, efo dirwyon hyd at £5000.

Mae Taclo Tipio Cymru hefyd yn argymell eich bod chi'n:

  • Cofnodi unrhyw wiriadau rydych chi'n eu wneud, gan gynnwys rhif cofrestriad y gweithredwr
  • Cadw derbynneb sy'n cynnwys disgrifiad o'r gwastraff a'r cwmni a ddefnyddiwch
  • Cofnodi manylion y busnes neu'r cerbyd (cofrestriad, gwneuthuriad, model, lliw)

I ddysgu mwy am sut i ddilyn eich dyletswydd gofal ewch i'n tudalen wybodaeth Dyletswydd Gofal.

Am gyngor ar sut i gael gwared a'ch gwastraff cartref ac eitemau diangen yn ddiogel, yn gyfreithlon ac yn gyfrifol ewch i'n tudalen cyngor am berchentywr os gwelwch yn dda.

Helpwch ni i leihau tipio anghyfreithlon trwy ein dilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol a rhannu cynnwys ein hymgyrchoedd.

Ymunwch â'n e-gylchlythyr

Tanysgrifiwch