Teiars yw un o’r eitemau sydd i’w gweld yn fwyaf aml ymysg gwastraff a dipiwyd yn anghyfreithlon. Cyflwynwyd cynllun Tagio Teiars Casnewydd i helpu i leihau’r nifer o deiars sy’n cael eu tipio’n anghyfreithlon.

Mae'n gynllun gwirfoddol a’i nod yw gweithio gyda garejys yng Nghasnewydd i'w gwneud yn anoddach i weithredwyr twyllodrus gael gafael ar deiars gwastraff. Gofynnir i garejys sy'n ymuno â'r cynllun farcio eu teiars gyda chyfeirnod unigryw.  Os yw’r teiars hyn yn cael eu gwaredu’n anghyfreithlon, dylem allu eu holrhain yn ôl i'r cwmni/unigolyn a'u casglodd. Nod y cynllun hwn yw ei gwneud yn anodd i gasglwyr twyllodrus gyflawni troseddau gwastraff.

Mae'r garejys canlynol wedi cofrestru ar gyfer Cynllun Tagio Teiars Casnewydd.  Mae hyn yn golygu eu bod wedi ymrwymo i waredu teiars yn gyfrifol a'u bod yn gweithio gyda ni i leihau achosion o dipio anghyfreithlon yng Nghasnewydd.

Mae cynllun Tagio Teiars Casnewydd yn brosiect partneriaeth a gefnogir gan: Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, Casnewydd yn Un, Taclo Tipio Cymru, Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Truck & Bus Wales & West

NP19 4SL

57 Tyres ltd

NP19 4ED

Scott's MOT Centre

NP19 0BH

Sinclair Volkswagen Newport

NP19 0HE

Robins & Day Newport

NP19 4QE

Samko ltd

NP19 4SJ