Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Caerffili ac Abertawe yw’r pum awdurdod lleol gorau am lwyddo i erlyn tipwyr anghyfreithlon yng Nghymru, yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017/18*.

Mae Cymru wedi gweld cynnydd o 36% yn nifer yr erlyniadau llwyddiannus am dipio anghyfreithlon o gymharu â 2016/17 – y nifer uchaf mewn tair blynedd. A thra bo’r erlyniadau wedi cynyddu, dengys y ffigurau fod tipio anghyfreithlon ar ei isaf yng Nghymru ers 2014 hefyd. 

Castell-nedd Port Talbot a ddaeth i’r brig, gyda 37 o achosion llwyddiannus, ac yna Sir Ddinbych ac Abertawe gyda chyfuniad o 14 achos.

Roedd un o achosion erlyn amlycaf Castell-nedd Port Talbot yn ymwneud â dyn 20 oed o Gastell-nedd. Cafodd ddedfryd ohiriedig a’i orchymyn i dalu costau ac iawndal o fwy na £2,000 ar ôl iddo gyfaddef tipio’n anghyfreithlon mewn tri lle, yn cynnwys meysydd parcio Canolfan Ymwelwyr Rhaeadr Aberdulais.
Meddai’r Cynghorydd Ted Latham, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Wasanaethau Stryd a Pheirianneg, wrth sôn am y llwyddiant hwn

“Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn falch o fod ar flaen y gad unwaith eto yn y frwydr yn erbyn tipio anghyfreithlon, sy’n felltith ar gymaint o’n cymunedau yng Nghymru. Mae gennym ‘bolisi goddef dim’ tuag at y broblem ac rydym yn ymfalchïo yn ein record orfodi gref, yn enwedig o ran erlyn yn llwyddiannus.”

 “Er bod gweithio tuag at sicrhau erlyniad yn golygu o bosibl na ellir clirio’r gwastraff mor gyflym, yn ein tyb ni yr unig ffordd gynaliadwy o ymdrin â’r broblem yw annog pobl i beidio â chyflawni’r weithred anghyfreithlon hon trwy daclo ffynhonnell y broblem. Yn ogystal â bod yn weithgar ar lawr gwlad, mae gan ein tîm Gorfodi Gwastraff bresenoldeb cryf ar y cyfryngau cymdeithasol, a hoffem ddiolch i’n trigolion a’n hasiantaethau partner am eu cefnogaeth ac am helpu i rannu’r neges glir fod Castell-nedd Port Talbot yn benderfynol o gadw’n ddiogel ac yn glir o wastraff anghyfreithlon. Hoffwn ddiolch i’n staff effro a chraff hefyd, yn cynnwys y tîm cyfreithiol, am wneud gwaith mor ardderchog drwy gydol y flwyddyn unwaith eto, a diolch hefyd i’r cyhoedd am roi gwybod inni am achosion o’r fath.”

Dengys y ffigurau newydd fod nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon yng Nghymru wedi gostwng 8% eleni (o 38,614 yn 2016-17 i 35,434 yn 2017-18), gyda rhai awdurdodau lleol yn cofnodi gostyngiadau sylweddol mewn tipio anghyfreithlon lleol. Abertawe a welodd y gostyngiad mwyaf o 3,646 o achosion yn 2016-17 i 1,766 yn 2016-17, ac yna Bro Morgannwg (gostyngiad o 47% mewn achosion o dipio anghyfreithlon o gymharu â 2016-17); Caerdydd (2,065 yn llai o achosion yn 2017-18) a Rhondda Cynon Taf (903 yn llai o achosion yn 2017-18). Fodd bynnag, mae rhai awdurdodau lleol wedi dweud bod y cynnydd a’r gostyngiad a welir yn nifer yr achosion yn deillio o newidiadau yn y data a gaiff ei gynnwys ganddynt, yn dilyn derbyn arweiniad gwell.

Ychwanegodd Gary Evans, Rheolwr Rhaglen Taclo Tipio Cymru:

“Awdurdodau lleol yw 22 o’r 50 o bartneriaid ar hyd a lled Cymru sy’n gweithio gyda ni i daclo tipio anghyfreithlon yng Nghymru. Mae eleni wedi bod yn drobwynt inni, gyda nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon ar eu hisaf ers tair blynedd a nifer yr erlyniadau llwyddiannus wedi cynyddu 36%. Rydym yn canfod ffyrdd newydd ac arloesol o reoli tipio anghyfreithlon yng Nghymru yn gyson, yn cynnwys ehangu FlyMapper, sef ap digidol sy’n helpu i ddod o hyd i leoedd lle mae llawer o dipio anghyfreithlon, a chyflwyno’r ymgyrch farchnata ‘No More Rubbish Excuses’ a lansiwyd ym mis Tachwedd 2018. Credwn fod yr ymgyrch hon wedi bod yn hollbwysig wrth newid ymddygiad perchnogion tai pan ddaw hi’n fater o gael gwared ar wastraff. Rhaid i bobl ar hyd a lled Cymru ddeall bod tipio anghyfreithlon yn drosedd. Mae’n niweidio’r amgylchedd, yr economi a chymunedau lleol, ac os cewch eich dal yn tipio’n anghyfreithlon fe allech wynebu dirwyon o hyd at £50,000 neu garchar.”

 Gall elusennau ailgylchu ailddefnyddio neu adfer y rhan fwyaf o’r eitemau cartref a gaiff eu tipio’n anghyfreithlon yn rhwydd. O safbwynt gwastraff cartrefi a busnesau, mae gennym ddyletswydd gofal cyfreithiol i sicrhau mai i berson awdurdodedig yn unig y caiff ei drosglwyddo, ac fe allai methu â gwneud hynny arwain at ddirwyon mawr.

Gallwch wirio a yw cludwyr gwastraff wedi’u cofrestru ai peidio trwy edrych ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru www.naturalresources.wales/checkWaste

Ffigurau* 2017/18 – fe’u cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 29 Tachwedd 2018:

https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Environment-and-Countryside/Fly-tipping/recordedflytippingincidents-by-localauthority