Mae’r haf wedi cyrraedd, a gyda hynny daw’r cyffro o fynd allan a mwynhau’r gorau o awyr agored Cymru. Er hynny, wrth i’r tymheredd godi, mae’r achosion o “dipio anghyfreithlon anfwriadol” hefyd ar gynnydd.

Mae ‘tipio anghyfreithlon’ yn cael ei gysylltu fel arfer â llwythi o deiars, soffas, ac eitemau cartref swmpus mewn fan yn cael eu gadael mewn lleoliadau cudd, heb eu dynodi.

Er hynny, yn ddiweddar bu cynnydd yn yr hyn a elwir yn ‘dipio anghyfreithlon anfwriadol’, mewn llecynnau prydferth ar draws Cymru. Mae hyn yn cyfeirio at adegau pan fydd aelodau'r cyhoedd yn gosod bagiau o sbwriel ac eitemau gwastraff wrth ymyl biniau llawn a safleoedd ailgylchu gwastraff.

Bu cynnydd hefyd mewn achosion bwriadol o dipio anghyfreithlon, e.e. gadael pethau fel barbeciws ac offer gwersylla mewn safleoedd o harddwch naturiol.

Yma, rydyn ni’n edrych ar ffyrdd ymarferol i’ch helpu chi i fwynhau’ch haf gan warchod amgylchedd hardd Cymru ar yr un pryd.
 

Mynd am Bicnic

Mae mynd am bicnic yn ffordd wych o wneud y gorau o'r haul gyda ffrindiau, ond mae'n bwysig ystyried effaith amgylcheddol ein gweithredoedd. Cynlluniwch ymlaen llaw bob amser a dewch â'ch bagiau eich hun er mwyn cario’ch sbwriel adref gyda chi; gall biniau gael eu llenwi'n hawdd mewn cyrchfannau haf poblogaidd gan fod mwy ohonom ni allan yn crwydro.

Peidiwch â rhuthro i brynu cyllyll a ffyrc plastig a phlatiau untro ar fyr rybudd. Ystyriwch fuddsoddi mewn set bicnic neu dewiswch opsiynau eraill y gellir eu hailddefnyddio fel bambŵ neu ddur di-staen - gallwch barhau i ddefnyddio’r rhain wrth gael picnic am lawer o hafau i ddod, gan arbed arian i chi yn y tymor hir a lleihau gwastraff!

Oeddech chi'n gwybod bod gadael eich sbwriel wrth ymyl bin wedi'i orlenwi yn cael ei ystyried yn dipio anghyfreithlon? Ceisiwch osgoi dod yn dipiwr anghyfreithlon anfwriadol trwy ddod â'ch bagiau eich hun gyda chi i gasglu eich sbwriel a mynd ag e adref gyda chi.

Does dim llawer o archfarchnadoedd bellach yn gwerthu barbeciws tafladwy, o ystyried pa mor niweidiol y gall y rhain fod i'r amgylchedd a’n bywyd gwyllt. Os byddwch chi’n defnyddio barbeciw tafladwy, gwnewch yn siŵr bob amser bod gyda chi hawl gyfreithiol i’w ddefnyddio yn yr ardal honno a dilynwch awgrymiadau diogelwch y Gwasanaeth Tân mewn perthynas â barbeciws tafladwy yma.

Dylech hefyd gynllunio ymlaen llaw a meddwl sut y byddwch yn cael gwared ar y barbeciw, a hynny mewn ffordd gyfrifol er mwyn osgoi tanau glaswelltir a difrod i finiau sbwriel.
 

Gwyliau, Gwersylla a Heicio

Mae ymgolli ym myd natur trwy wersylla a heicio yn ffordd wych o groesawu’r haf, boed yn lleol neu ymhellach i ffwrdd. Er hynny, mae cynnydd yn nifer y bobl sy’n manteisio ar y gweithgareddau awyr agored hyn wedi cael effaith negyddol ar ecosystemau ar draws Cymru gyfan oherwydd ddefnyddio’r tŷ bach yn amhriodol, taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon.

Mae’r duedd ddiweddar o ‘wersylla gwyllt’ hefyd wedi ychwanegu at y broblem, gyda gwersyllwyr yn codi pebyll a gosod faniau’n anghyfreithlon, a hynny heb ganiatâd y tirfeddiannwr ac yna’n gadael gwastraff ar eu hôl. Er mwyn osgoi hyn, sicrhewch eich bod yn codi eich pabell ar faes gwersylla sydd â chyfleusterau gwaredu gwastraff priodol.

Am ragor o wybodaeth ddefnyddiol ar sut i ddiogelu’r natur rydych chi’n ei harchwilio, edrychwch ar wefan y Cod Cefn Gwlad.

Wrth fynychu digwyddiadau, ystyriwch sut y gallwch chi eu mwynhau'n gynaliadwy. Dylech osgoi prynu pabell rad gyda’r bwriad o’i gadael ar ôl i drefnwyr y digwyddiad gael gwared arni; mae’n anodd iawn ailgylchu pebyll, ac mae hyn mewn gwirionedd yn dipio anghyfreithlon. Ystyriwch logi pabell neu brynu pabell i'w hailddefnyddio; mae trefnwyr digwyddiadau yn fan cychwyn da ac yn aml bydd ganddyn nhw ddewisiadau mwy cynaliadwy i’w cynnig.
 

Garddio a Thirlunio

Mae garddio yn ddifyrrwch haf poblogaidd, ond mae'n hanfodol cael gwared ar wastraff gwyrdd a hynny mewn ffordd gyfrifol. Oeddech chi'n gwybod bod gwaredu gwastraff gwyrdd yn cael ei ystyried yn dipio anghyfreithlon? Pa mor aml ydyn ni wedi gweld cymdogion yn taflu gwastraff gwyrdd dros waliau neu ar draws y ffordd?

Gall taflu gwastraff gardd mewn cae, coedwig, tir comin, neu dros y ffens gefn ymddangos yn beth diniwed, ond gall y risgiau fod yn sylweddol – nid yn unig i’r amgylchedd ond hefyd i’r garddwr y profir ei fod wedi tipio’n anghyfreithlon. Os canfyddir eich bod wedi dympio eich gwastraff gardd, gallech wynebu dirwy o hyd at £400 am dipio anghyfreithlon ar raddfa fach.

Darllenwch fwy am beryglon gwaredu gwastraff gwyrdd i’r amgylchedd a sut i gael gwared ar wastraff gardd yn fwy cyfrifol yn ein herthygl yma. Gwiriwch gyda’ch cyngor lleol i weld ydyn nhw’n cynnig gwasanaeth casglu gwastraff gardd am ddim neu wasanaeth y codir tâl amdano. Os yw eich bin yn llawn, gallwch ailgylchu gwastraff gardd yn eich canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref lleol. I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar wefan eich cyngor lleol neu ewch i Cymru yn Ailgylchu.
 

Chwaraeon Dŵr a Gweithgareddau Traeth

Mae traethau ac afonydd yn gyrchfannau haf poblogaidd, ac yn rhan hanfodol o haf Cymru, a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod ni’n eu cadw’n lân ac yn rhydd o lygredd.

P'un ai a ydych chi'n cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr neu ond yn mwynhau'r traeth, gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n taflu unrhyw wastraff i'r môr, gan gynnwys poteli, papur lapio neu leiniau pysgota. Defnyddiwch finiau gwastraff cyfagos neu, os nad oes rhai ar gael, ewch â'ch gwastraff adref gyda chi.

Os ydych chi’n frwd dros warchod yr amgylchedd, yna un gweithgaredd haf allai fod yn un hwyliog yw cymryd rhan mewn menter glanhau traeth ac annog eraill i wneud yr un peth, gan sicrhau amgylchedd glanach a mwy diogel i bawb ei fwynhau. Gellid gwneud hyn gyda grŵp cymunedol neu drwy gynllun cenedlaethol fel Cadwch Gymru'n Daclus.

 

Mae'r haf yn dymor ar gyfer cael hwyl, ymlacio, a gwerthfawrogi harddwch natur. Drwy fabwysiadu arferion cyfrifol a dweud ‘na’ wrth dipio anghyfreithlon, gallwn gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.

Cofiwch, mae pob cam bychan y byddwn ni’n ei gymryd i atal tipio anghyfreithlon yn cyfrannu at Gymru lanach ac iachach er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau. Gadewch i ni gofleidio harddwch yr haf, a hynny mewn ffordd gyfrifol, a gadael marc cadarnhaol ar ein hamgylchedd.