·         Mae Llywodraeth Cymru a Thaclo Tipio Cymru yn nodi gostyngiad o 4% mewn achosion o dipio anghyfreithlon o gymharu â’r llynedd.
·         Rhondda Cynon Taf, Casnewydd a Chaerdydd gafodd y nifer uchaf o erlyniadau – gyda 23, 14 a 9 erlyniad, yn y drefn honno.
·         Caerdydd, Sir Gaerfyrddin a Blaenau Gwent roddodd y nifer uchaf o ddirwyon yn y fan a'r lle – gyda 511, 103 a 90 yn cael eu rhoi, yn y drefn honno.
 

Fly-tipping in town centre.jpg

Mae ffigurau newydd a ryddhawyd heddiw (16 Tachwedd 2023) gan Lywodraeth Cymru a Thaclo Tipio Cymru yn datgelu gostyngiad o 4% mewn tipio anghyfreithlon o gymharu â’r llynedd, wrth i gynghorau yng Nghymru barhau i fynd i’r afael â’r drosedd. Gostyngodd achosion o dipio anghyfreithlon yr adroddwyd amdanynt i 39,853 o ddigwyddiadau, o'u cymharu â'r llynedd, pan oedd 41,333 o ddigwyddiadau.

Mae’r adroddiad hefyd yn datgelu bod Rhondda Cynon Taf, Casnewydd a Chaerdydd ymhlith y cynghorau a sicrhaodd y nifer uchaf o erlyniadau llwyddiannus ar gyfer tipio anghyfreithlon yng Nghymru, a’r cynghorau a berfformiodd orau ar gyfer rhoi hysbysiadau cosb benodedig – dirwyon i'r rhai y canfuwyd bod eu gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon – oedd Caerdydd, Sir Gaerfyrddin a Blaenau Gwent.

Cymerir y camau hyn i orfodi’r gyfraith ac i atal tipwyr anghyfreithlon – cyhoeddir hysbysiadau cosb benodedig am droseddau amgylcheddol ar raddfa lai megis gollwng sbwriel, tipio anghyfreithlon ar raddfa lai, a methiant i wirio bod gan rywun drwydded wrth ei gyflogi i symud gwastraff. Yn y cyfamser, defnyddir erlyniad i gosbi’r rhai sy’n gyfrifol am dipio anghyfreithlon ar raddfa fawr, troseddau tipio anghyfreithlon ailadroddus, tipio anghyfreithlon masnachol, neu dipio anghyfreithlon o wastraff peryglus.

Datgelodd adroddiad 2022-23, sy’n dadansoddi tipio anghyfreithlon a gofnodwyd gan gynghorau rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, y cafodd cyfanswm o 27,373 o gamau gorfodi gwastraff (llythyrau rhybuddio, hysbysiadau cosb benodedig, rhybuddiadau ffurfiol ac erlyniadau) eu cymryd yng Nghymru hefyd.  Roedd 59 o erlyniadau llwyddiannus yn ffigurau eleni, gostyngiad ar y ffigur o 91 y llynedd.  Fodd bynnag, roedd ffigur y llynedd yn cynnwys nifer o achosion yn cael eu clywed ar ôl cael eu hoedi o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.  Yn galonogol, mae cynghorau wedi cynyddu eu defnydd o hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer tipio anghyfreithlon o 906 yn 2021-22 i 1,129 eleni.

Er bod gostyngiad bach yn nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon, dylai deiliaid tai fod yn ofalus gan fod Cymru’n dal i weld niferoedd enfawr o sgamwyr ar-lein, a elwir yn aml yn ‘dipwyr anghyfreithlon Facebook’, yn honni eu bod yn gludwyr gwastraff cyfreithlon mewn cymunedau ar-lein, gan fanteisio ar ddeiliaid tai diarwybod a gwaredu eu gwastraff yn anghyfreithlon.

Amcangyfrif cost clirio tipio anghyfreithlon i drethdalwyr Cymru yw £1.83 miliwn rhwng 2022 a 2023, gyda gwastraff cartref yn gyfrifol am 70% o dipio anghyfreithlon.  Fodd bynnag, gallai'r ffigur hwn gael ei leihau’n sylweddol trwy bob deiliad tŷ yn dilyn eu dyletswydd gofal gwastraff, sef sicrhau eu bod yn cyflogi cludwyr gwastraff cofrestredig yn unig i fynd â'u gwastraff i ffwrdd. 

Gall trigolion Cymru gefnogi eu cyngor lleol a helpu i barhau â’r duedd ar i lawr drwy wirio bob amser bod gan y sawl sy’n symud gwastraff o’u cartref drwydded. Gellir gwirio trwyddedau cludwyr gwastraff yma:  cyfoethnaturiol.cymru/GwirioCludwrGwastraff, neu drwy ffonio 0300 065 3000.

Dywedodd Neil Harrison, Arweinydd Tîm Taclo Tipio Cymru: “Mae cynghorau ledled Cymru yn gweithio’n ddiflino i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon ac i atal y troseddwyr sy’n difetha ein tirwedd. Mae’n gadarnhaol iawn gweld eu hymdrechion parhaus yn cael eu hadlewyrchu yn y gostyngiad cyffredinol mewn tipio anghyfreithlon ledled Cymru yn ffigurau eleni.

“Mae’n dal yn wir fod tua 70% o’r holl dipio anghyfreithlon yn cynnwys gwastraff o gartrefi, a dyna pam rydym yn annog trigolion i amddiffyn eu hunain rhag cludwyr gwastraff anghyfreithlon anghofrestredig ac yn gofyn iddynt wirio bob amser gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a yw’r sawl y maent yn ei ddefnyddio i symud unrhyw wastraff dros ben o'u cartrefi yn gludwr gwastraff cofrestredig.

“Mae’r cynnydd mewn cyfryngau cymdeithasol wedi dod â chynnydd yn nifer y tipwyr anghyfreithlon sy’n honni eu bod yn gludwyr gwastraff cyfreithlon mewn grwpiau ar-lein – felly, mae’n bwysicach nag erioed bod deiliaid tai yn wyliadwrus wrth ddilyn eu dyletswydd gofal ar gyfer gwastraff cartref wrth dalu rhywun i gael gwared ar eu gwastraff.”

Dywedodd y Cynghorydd Caerdydd Caro Wild: “Ein hamcan yw atal a chanfod tipio anghyfreithlon ac rydym wedi buddsoddi mewn mwy o deledu cylch cyfyng eleni. Mae'r timau gorfodi yn parhau i fynd i'r afael â throseddwyr sy'n tipio'n anghyfreithlon ac yn difetha ein hamgylchedd trwy hysbysiadau cosb benodedig ac erlyniadau. Gyda'r defnydd o deledu cylch cyfyng mewn mannau problemus ein nod yw erlyn troseddwyr sy'n parhau i ddympio yn anghyfreithlon.”

Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol. Mae’n achosi difrod sylweddol i’r amgylchedd, yr economi a chymunedau lleol – mae deiliaid tai nad ydynt yn gwirio am drwydded yn wynebu cosb benodedig o £300 neu ddirwy hyd at £5,000 a chofnod troseddol os eir i Lys Ynadon.  Gall y sawl a geir yn euog o dipio'r gwastraff yn anghyfreithlon dderbyn dirwy ddiderfyn a hyd at bum mlynedd yn y carchar.

Wrth drefnu i gael gwared ar wastraff cartref, mae’n ofynnol i bobl yng Nghymru wirio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru bod yr unigolyn neu gwmni y maent yn ei ddefnyddio yn gludwr gwastraff cofrestredig drwy ymweld â cyfoethnaturiol.cymru/GwirioCludwrGwastraff neu drwy ffonio 03000 653000.

Darllenwch fwy am sut i osgoi ‘tipiwr anghyfreithlon Facebook’ wrth ddod o hyd i gludwr gwastraff ar wefan Taclo Tipio Cymru – chwiliwch flytippingactionwales.org/cy/blog/AtalTipwyrFacebook.

I gael rhagor o wybodaeth am ffyrdd o reoli a chael gwared ar eich gwastraff yn ddiogel, yn gyfreithlon ac yn gyfrifol, ewch i DyletswyddGofal.cymru, dilynwch @FtAW ar Twitter neu chwiliwch @FtAWales ar Facebook.