Mae’r Flwyddyn Newydd yn aml yn dod â chynlluniau uchelgeisiol i arbed arian, dod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd, neu ganolbwyntio ar ein hiechyd a’n lles – a’r rhan fwyaf ohonom yn rhoi’r gorau i’r nodau hyn cyn Dydd Gŵyl Dewi.

I’r rhai ohonom sy’n gobeithio cymryd camau bach i fod yn fwy cynaliadwy – tra’n bod yn ymwybodol o arbed arian – rydym wedi llunio rhestr o awgrymiadau ar sut i leihau a chael gwared ar eich gwastraff er mwyn cadw eich cyllideb ar y trywydd iawn.

Mae tipio anghyfreithlon yn difetha tirweddau cymunedol a gall arwain at ddirwyon costus os deuir o hyd i’ch gwastraff wedi’i ddympio, hyd yn oed os gwnaethoch dalu rhywun i gael gwared ar eich eitemau diangen. Gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn defnyddio cludwr gwastraff cofrestredig wrth waredu eich gwastraff gan fod hyn yn amddiffyn eich amgylchedd lleol yn well, ac yn eich arbed rhag wynebu cosbau drud.

Parhewch i ddarllen i gael ein hawgrymiadau i’ch helpu i arbed arian – a diogelu’r amgylchedd – yn 2023.

1. Gwaredu eitemau swmpus – osgoi dirwy o £300!

Gall sgamwyr gynnig gwasanaethau gwaredu gwastraff anghyfreithlon, gan addo cael gwared ar ddodrefn swmpus neu eitemau eraill am gost isel. Mae'r gwastraff cartref sy'n disgyn i'w dwylo, yn rhy aml o lawer, yn cael ei dipio'n anghyfreithlon. Os ydych chi'n talu rhywun i gael gwared ar eich gwastraff cartref, a'i fod yn cael ei dipio'n anghyfreithlon, gallech dalu dirwy o £300 yn y pen draw.

Mae eich Dyletswydd Gofal yn golygu eich bod yn atebol am sicrhau eich bod yn defnyddio cludwr gwastraff cofrestredig i gael gwared ar eitemau swmpus diangen; eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich gwastraff cartref yn cael ei waredu’n ddiogel ac yn gyfreithlon. Gallwch ddod o hyd i restr o gludwyr gwastraff cofrestredig trwy'r gofrestr gyhoeddus.

Os oes gennych gar, gallwch gael gwared ar eich gwastraff mewn canolfan ailgylchu neu domen leol.

Fel arall, bydd eich cyngor lleol yn darparu gwasanaeth symud nwyddau swmpus – edrychwch ar eu gwefan am ragor o wybodaeth. Yn aml bydd gan gynghorau bris penodol ar gyfer cael gwared ar ambell eitem swmpus, felly os mai dim ond un eitem sydd gennych, beth am ofyn i’ch cymdogion a oes ganddynt unrhyw beth i gael gwared arno a rhannu’r gost.

2. Arbed arian i’ch cymuned

Efallai eich bod yn meddwl eich bod yn gwneud peth da yn gadael eitemau y gellir eu hailddefnyddio ar y stryd, rhag ofn y bydd rhywun yn eu cymryd. Ond y gwir amdani yw, wrth wneud hynny, rydych chi’n creu gwaith i’ch cyngor lleol ac yn gwneud i’r ardal edrych yn flêr. Gall gadael dodrefn neu nwyddau cartref ar y palmant hefyd annog mwy o ddympio eitemau diangen yn eich ardal! Gweler y cyngor isod ar gyfer gwerthu neu gyfrannu eitemau diangen.

Arbedwch arian i’ch awdurdod lleol a sicrhewch eich bod yn cael gwared ar eitemau eich cartref yn gyfreithlon ac yn gyfrifol. Gofynnwch am drwydded cludwr gwastraff wrth archebu rhywun i fynd â'ch eitemau diangen i ffwrdd bob tro.

Os byddwch yn dod ar draws rhywun sy’n cynnig gwasanaethau gwaredu wastraff ond nad yw’n darparu trwydded cludwr gwastraff – ac nad yw’n ymddangos yn y gronfa ddata cludwyr gwastraff – gallwch roi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru am hyn. Bydd hyn yn helpu i'ch arbed chi, a'ch cymuned, rhag cael eich twyllo gan fasnachwr twyllodrus.

3. Gwerthu neu gyfrannu eich eitemau diangen

Gall taith i’r domen fod yn demtasiwn pan fydd gennych focsys o eitemau diangen i’w dadlwytho, ond mae opsiwn arall sy’n cynhyrchu llai o wastraff ac a allai wneud rhywfaint o arian i chi.

Ffordd hawdd o gael gwared ar eitemau diangen yw eu hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar-lein i'w casglu; mae hyn yn golygu y gallwch werthu eich nwyddau diangen heb orfod gadael y tŷ.

Mae siopau elusen hefyd wastad yn chwilio am roddion caredig, gyda llawer yn derbyn amrywiaeth o nwyddau cartref - o ddillad i nwyddau trydanol a dodrefn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio pa nwyddau mae eich elusennau lleol yn eu derbyn cyn eu rhoi.

Cofiwch ollwng nwyddau dim ond pan fydd y siop elusen ar agor, gan fod gadael bocsys y tu allan i'r siop yn cael ei ystyried yn dipio anghyfreithlon. Bydd rhai siopau elusen hyd yn oed yn casglu eich eitemau gennych.

4. Cael mwy o'ch cynhwysion

Os oes gennych fwyd sydd wedi mynd heibio ei ddyddiad “ar ei orau cyn”, mae’n werth gwirio a yw’n iawn i’w yfed neu ei fwyta cyn ei daflu – gallwch wneud hyn trwy wirio ei liw a’i gysondeb, yn ogystal â’r arogl.

Gellir trawsnewid ffrwythau aeddfed iawn yn ryseitiau blasus; gellir defnyddio bananas mewn cacennau a thorthau bara banana, gellir defnyddio afalau mewn pasteiod a myffins, ac mae gellyg yn gwneud topins blasus ar gyfer uwd pan fyddant wedi'u stiwio.

Gellir cymysgu dail salad dros ben yn besto, a gellir rhewi llawer o gynhyrchion bwyd i gynyddu eu hoes silff - gan gynnwys llaeth, cig, a hyd yn oed pasta wedi'i goginio.

Fodd bynnag, os oes unrhyw amheuaeth a bod eich bwyd wedi mynd heibio ei ddyddiad defnyddio, efallai y byddai’n well ei daflu i’ch bin gwastraff bwyd. Darperir y rhain am ddim gan y rhan fwyaf o gynghorau lleol.

5. Siopa'n gynaliadwy

Gall prynu dillad ail-law ymestyn oes dillad diangen ac yn aml gall fod yn llawer rhatach na phrynu dillad newydd.

Yn fwy na hynny, mae prynu dillad ail-law yn helpu i frwydro yn erbyn cynnydd ffasiwn cyflym; diwydiant sydd wedi dod yn fwyfwy poblogaidd dros y degawd diwethaf, gan gyfrannu'n aruthrol at y 35% o ficroblastigau sydd yn y cefnfor.

Mae osgoi ffasiwn cyflym trwy siopa cynaliadwy, ail-law yn helpu i gadw ein cefnforoedd yn lân, ac yn darparu ffynonellau amgen o ddillad rhad i ni.

Mae llawer o siopau ac archfarchnadoedd lleol bellach yn cynnig gorsafoedd ail-lenwi, lle gallwch ddod â'ch jar neu gynhwysydd eich hun a chael hanfodion fel grawnfwyd a siampŵ mewn modd cynaliadwy - os oes gorsaf ail-lenwi yn eich ardal chi, ewch draw i gael golwg!

6. Lleihau, ailddefnyddio

Mae nifer o newidiadau bach y gallwch eu gwneud bob dydd a all helpu'ch waled - a'r blaned.

Mae cadw bagiau plastig y gellir eu hailddefnyddio yn y car pan fyddwch yn mynd i siopa yn lleihau’r defnydd o fagiau plastig, ac yn golygu nad oes rhaid i chi dalu am fagiau siopa.

Newid hawdd arall yw mynd â'ch cwpan coffi amldro eich hun gyda chi wrth gael coffi i fynd. Bydd llawer o siopau coffi yn cynnig gostyngiad a gwobrau am ddod â’ch cwpan eich hun, ac ni fyddwch yn creu unrhyw sbwriel anodd ei waredu.

Gallwch hefyd leihau eich gwastraff ac arbed arian drwy drwsio eich eitemau – ystyriwch ymweld â Chaffis Trwsio ledled Cymru yn lle prynu rhai newydd. Bydd eu tîm cyfeillgar o wirfoddolwyr yn eich helpu i drwsio pob math o eitemau, o ddillad i offer chwaraeon a mwy.