

Diolch am gymryd golwg ar ein hymgyrch ddiweddaraf.
Rydyn ni o ddifrif ynglŷn ag erlyn y rhai sy’n tipio’n anghyfreithlon ac rydyn ni’n gobeithio’ch bod chi’n frwd dros amddiffyn eich cymuned.
Er mwyn darganfod beth yw tipio anghyfreithlon, pam ei fod yn gymaint o broblem a sut y gallwch chi helpu, darllenwch y wybodaeth isod.

Mae tipio anghyfreithlon yn golygu dympio unrhyw fath o wastraff. Gall fod yn un neu ddau fag du’n llawn gwastraff o’r cartref, i lond lori o wastraff gwenwynig, cemegol neu berygl o fusnesau neu adeiladau mawr eraill.
Mae gan bob un ohonon ni gyfrifoldeb cyfreithiol i gael gwared â gwastraff yn ddiogel ac yn gyfrifol. Os yw’ch gwastraff yn cael ei ddarganfod wedi ei dipio’n anghyfreithlon a’i fod yn cael ei olrhain yn ôl i’ch cartref, fe allech chi gael eich dal yn gyfrifol. Mae tipio anghyfreithlon yn swyddogol yn drosedd sy’n gallu cario dirwy o hyd at £50,000 a hyd yn oed cyfnod yn y carchar.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod tua 41,750 o achosion o dipio anghyfreithlon wedi eu cofnodi yng Nghymru (rhwng Ebrill 2010 – Mawrth 2011) gan gostio i ni, y trethdalwyr, dros £2.3 miliwn i’w lanhau.
Mae tipio anghyfreithlon yn falltod dianghenraid yn ein cymunedau ac yn ddolur llygad ar draws ein tirluniau, cefn gwlad ac arfordiroedd hyfryd. Mae tipio anghyfreithlon yn achosi risgiau real iawn i iechyd cyhoeddus yn ogystal ag anifeiliaid, bywyd gwyllt a’n amgylchedd ehangach.
Am wybodaeth fanylach, ewch i’n hadrannau Busnesau, Perchnogion Tai a Thirfeddianwyr.

Mae Taclo Tipio Cymru yn gweithio gyda dros 50 o sefydliadau partnerol i daclo’r rhai sy’n tipio’n anghyfreithlon ond gall bob un ohonon ni wneud gwahaniaeth. Dyma’n cynghorion cyflym i daclo’r rhai sy’n tipio:
• Gofynnwch bob amser i ble mae’ch gwastraff yn mynd a defnyddiwch fasnachwr sydd wedi ei gofrestru fel cludwr gwastraff gydag Asiantaeth yr Amgylchedd.
• Ailgylchwch gymaint â phosibl yn cynnwys cardfwrdd, caniau a photeli. Cofiwch y gallwch chi hefyd gompostio bwyd a gwastraff gwyrdd.
• Os ydych chi’n cael gwared ar eitemau tŷ mawr megis soffas, cysylltwch â’ch awdurdod lleol i gael gwybodaeth am gasgliadau gwastraff swmpus.
• Ddylen nhw ddim ond mynd â’r gwastraff hwn i safle sydd â thrwydded neu sydd wedi ei heithrio rhag bod angen trwydded.