Mae tri chwarter o’r holl dirfeddianwyr yn ystyried tipio anghyfreithlon yn broblem. Os yw tipio anghyfreithlon yn digwydd ar eich tir, eich cyfrifoldeb chi fel y tirfeddiannwr yw ei glirio a thalu i gael gwared â’r gwastraff.
Os ydych yn ddioddefwr tipio anghyfreithlon, dylech gofnodi cymaint o fanylion â phosibl a rhoi gwybod i’ch awdurdod lleol ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Tynnwch luniau o’r gwastraff fel y daethoch ar ei draws. Siaradwch â’ch cymdogion i weld a welon nhw rywun neu rywbeth amheus. Sut mae rhoi gwybod am ddigwyddiad..
Bydd y canllaw canlynol yn eich helpu i gymryd camau i amddiffyn eich tir rhag tipio anghyfreithlon: