Oes unrhyw un o’r busnesau canlynol yn cludo’ch gwastraff i ffwrdd?
• Adeiladwyr |
• Seiri Coed ac Asiedyddion |
• Trydanwyr |
• Gosodwyr Ceginau, Ffenestri a Charpedi |
• Plymwyr |
• Peintwyr ac Addurnwyr |
• Towyr |
• Garddwyr a Thorwyr Coed |
• Clirwyr Tai |
• Casglwyr Olew Gwastraff |
• Llogi Sgipiau |
• Delwyr Metel Sgrap |
Un o’r prif ffyrdd y gall y cyhoedd helpu i ymladd yn erbyn tipio anghyfreithlon yw trwy ofyn i ble mae’ch gwastraff yn mynd. Os bydd eich gwastraff yn cael ei ddarganfod wedi ei ddympio yna fe allech chi gael eich dirwyo.
Os ydych yn rhoi’ch gwastraff i rywun arall, yna rhaid i chi ddefnyddio cludydd sbwriel sydd â’i fusnes wedi ei gofrestru gydag Asiantaeth yr Amgylchedd. Gofynnwch i’r cludydd ddangos prawf i chi eu bod wedi eu cofrestru i gario gwastraff. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, ffoniwch Asiantaeth yr Amgylchedd ar 08708 506 506. Gallwch ddod o hyd i’r cludwyr cofrestredig yn eich ardal trwy fynd i wefan Asiantaeth yr Amgylchedd.
Mae awdurdodau lleol yn cynnal safleoedd ‘Amwynderau Dinesig’, lle gallwch fynd â gwastraff i gael ei ailgylchu neu ei waredu. I ddarganfod beth allwch chi fynd i ble, ewch i Gynllun Craff am Wastraff a defnyddiwch y lleolydd ailgylchu ac ailddefnyddio.
Hefyd, mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn fodlon casglu eitemau mawr, swmpus o’ch cartref am dâl bychan. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol a gofynnwch am wybodaeth.
Ydych chi eisiau cymryd cyfrifoldeb am ansawdd eich amgylchedd lleol? Yna cymerwch ran yn y prosiect Trefi Taclus.
Mae’r prosiect yn helpu cymunedau i fabwysiadu’r mannau gwaethaf am wastraff a’u hadfer i’w harddwch blaenorol. Mae’r prosiectau a ymgymerwyd gan grwpiau’n cynnwys:
• Codi sbwriel a glanhau
• Cynnal a chadw llwybrau
• Rheoli twyni
• Gosod meinciau
• Creu safleoedd picnic
• Clirio a rheoli rhywogaethau ymledol
• Gwella mynediad i’r anabl
• Datblygu gerddi a rhandiroedd cymunedol
• Cynnal amnestau gwastraff
• Rheoli cynefinoedd a bioamrywiaeth
• Gwella mynwentydd
I ddod o hyd i fwy ewch i Gadw Cymru’n Daclus..