Canllaw ar gyfer Busnesau

Defnyddiwch gludyddion gwastraff cofrestredig

Os ydych yn rhoi’ch gwastraff i rywun arall, rhaid i chi ddefnyddio cludydd gwastraff sydd â’i fusnes wedi ei gofrestru gydag Asiantaeth yr Amgylchedd. Bydd angen i’r cludydd ddangos prawf i chi ei fod wedi ei gofrestru i gludo gwastraff.

Gallwch ddod o hyd i gludyddion cofrestredig yn eich ardal trwy fynd i Gofrestr Gyhoeddus Asiantaeth yr Amgylchedd neu’r Cyfeiriadur Gwastraff.

Darllenwch / Llwythwch y canlynol i lawr i ddarganfod mwy am eich Dyletswydd Gofal...

Gweld fel Tudalen Gwe | Download PDF File Llwythwch PDF i lawr

Dod yn gludydd gwastraff cofrestredig

Ydych chi’n gweithio yn y math yma o fusnes?

• Adeiladwyr

• Trydanwyr

• Plymwyr

• Seiri coed ac asiedyddion

• Towyr

• Llogi sgipiau

• Ffitwyr Ceginau, Ffenestri a Charpedi

Os ydych yn cario gwastraffau adeiladu neu ddymchwel rydych wedi eu cynhyrchu, rhaid i chi gofrestru fel cludydd gwastraff gydag Asiantaeth yr Amgylchedd.

Rhaid i chi fynd â’ch gwastraff i safle awdurdodedig. Er mwyn eich helpu i benderfynu os ydych yn gludydd, brocer neu ddeliwr gwastraff ewch i Net Regs.

Gwnewch gais i gael cofrestrun.

Gwahanol fathau o wastraff

Os ydych am ddarganfod ble mae cael gwared â, neu ailgylchu math arbennig o wastraff ewch i Net Regs i gael help.

Mae’r deunydd yma y gellir ei lwytho i lawr hefyd yn cynnig cyngor ar gael gwared â gwahanol fathau o wastraff:


Gweld fel Tudalen Gwe |Download PDF File Teiars

Gweld fel Tudalen Gwe |Download PDF File Pridd a Rwbel

Gweld fel Tudalen Gwe |Download PDF File Gwastraff Peryglus

Gweld fel Tudalen Gwe |Download PDF File Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff

Gweld fel Tudalen Gwe |Download PDF File Busnesau a Choelcerthi